-
"Bwthyn hudolus ar gyfer gwyliau gwych"
Mae Taicroesion yn creu argraff ar bob un sy'n dod i aros yma, ac mae llawer yn dychwelyd dro ar ôl tro.
Cewch fwynau moethusrwydd cyfforddus y bwthyn o flaen tanllwyth o dân y simdde fawr yn y gaeaf, neu gerdded llwybrau'r gerddi yn heulwen yr haf.
Mae digon o le i deulu mawr yma, digonedd o bethau i'w gweld a'u gwneud yn lleol.
Dyma leoliad delfrydol i brofi croeso Gwyliau Gorwel.
Yn swatio mewn llecyn tawel oddi ar yr heol, gyda golygfeydd trawiadol dros ddyfroedd disglair bae Ceredigion, mae'r bythynnod i gyd mewn lleoliad ardderchog ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.
Lai na chwarter milltir lawr yr heol mae traeth tywod euraid Llanaber yn lleoliad delfrydol ar gyfer dyddiau hafaidd diog, neu i frasgamu yn awyr iach y gaeaf. Neu daliwch gwch o harbwr Bermo draw i Fairbourne a mynd am daith ar y trên stêm.
O fewn cyrraedd cyfleus mae mynyddoedd i'w dringo, llwybrau i'w beicio a gweithgareddau ac atyniadau i'r teulu cyfan. Mae tref Harlech, â'i chastell mawreddog, cwrs golff nodedig a thraeth anhygoel 10 milltir i un cyfeiriad, a thref marchnad Dolgellau yn glos wrth droed Cader Idris i'r cyfeiriad arall.
Mae digonedd o siopau, tafarndai a bwytai yn nhref harbwr y Bermo (1 milltir). Mae tafarn sy'n gweini bwyd o fewn 300 llath.
Manylion llety
Lolfa fawr gyda thrawstiau coed gwreiddidol a lle tân trawiadol. Snyg gyda theledu. Cegin ac ystafell fwyta ar wahân. Llawr cyntaf: Ystafell wely ddwbl gyda gwely sengl ychwanegol (ar gyfer + 1). Dwy ystafell wely gyda dau wely sengl ynddynt. Tŷ bach / Ystafell olchi gyda chawod uwch y bath.
Gallwch lawrlwytho Datganiad Hygyrchedd ar gyfer y bwthyn drwy glicio yma.
Cyfleusterau
- Dillad gwely a thywelion
- Crud
- Sychwr gwallt
- 2 deledu digidol
- DVD
- Radio/casét/CD
- Trydan wedi'i gynnwys
- Talu am olew yn ôl darlleniad y mesurydd
- Coed tân, bag cyntaf am ddim
- Peiriant golchi llestri
- Microdon
- Oergell/Rhewgell
- Ystafell olchi wedi'i rhannu yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad
- Parcio
- Tŷ bach tu allan
- Gardd gyda phatio a dodrefn
- Barbiciw
- Anifeiliaid anwes – 1 ci (rhaid ei gadw ar dennyn)
- Coeden ac addurniadau ar gyfer cyfnod y Nadolig
- Dim ysmygu



