Taicroesion
Mae'r bwthyn hwn dros 300 oed! Mae'n llawn cymeriad, yn darparu digonedd o le, ac yn sicr o ddwyn eich calon ar eich ymweliad cyntaf. Yn yr haf, casglwch o gylch y bbq, yn y gaeaf, closiwch at y tan agored enfawr!
Yn fras
- Cysgu hyd at 7
- Hunan arlwyo
- Gerddi eang
Beudy Taicroesion
Cafodd y beudy hwn ei drosi'n fwthyn gwyliau ym 2008.Cewch olygfeydd dros fae Ceredigion o'r lolfa sydd ar y llawr uchaf, neu manteisiwch ar y BBQ sydd yn yr ardd yn ystod y tywydd mwyn rydym yn ei fwynhau ar yr arfordir.
Yn fras
- Cysgu 4
- Modern a chyffyrddus
- Hunan arlwyo
- Gardd a phatio
Beudy Gwenoliaid
Dyma'r bwthyn diweddaraf gennym. Gorffennwyd yn 2012, a byddwch yn sicr o werthfawrogi gwaith y crefftwyr sydd wedi troi hen feudy yn fwthyn modern a moethus! Clud yn y gaeaf, drysau mawr yn agor i batio uchel yn yr haf.
Yn fras
- Cysgu hyd at 5
- Patio uchel
- Hunan arlwyo
- Moethus
