-
"Anodd credu y bu gwartheg yn byw yma!"
Gorffennwyd y bwthyn hwn yn 2012. Ac mae gwaith y crefftwyr lleol yn werth ei weld.
Yn sicr, fyddwch chi ddim yn teimlo fel eich bod yn aros mewn rhyw hen sied! Mae'r lloriau derw cynnes a chadeiriau lledr moethus yn estyn croeso gwresog i chi ar ddiwedd diwrnod o archwilio traethau a mynyddoedd yr ardal leol.
Pan fydd y tywydd yn braf byddwch yn sicr o fanteisio ar y drysau dwbl sy'n arwain allan i'r patio gyda golygfeydd hyfryd dros y môr.
Yn swatio mewn llecyn tawel oddi ar yr heol, gyda golygfeydd trawiadol dros ddyfroedd disglair bae Ceredigion, mae'r bythynnod i gyd mewn lleoliad ardderchog ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.
Lai na chwarter milltir lawr yr heol mae traeth tywod euraid Llanaber yn lleoliad delfrydol ar gyfer dyddiau hafaidd diog, neu i frasgamu yn awyr iach y gaeaf. Neu daliwch gwch o harbwr Bermo draw i Fairbourne a mynd am daith ar y trên stêm.
O fewn cyrraedd cyfleus mae mynyddoedd i'w dringo, llwybrau i'w beicio a gweithgareddau ac atyniadau i'r teulu cyfan. Mae tref Harlech, â'i chastell mawreddog, cwrs golff nodedig a thraeth anhygoel 10 milltir i un cyfeiriad, a thref marchnad Dolgellau yn glos wrth droed Cader Idris i'r cyfeiriad arall.
Mae digonedd o siopau, tafarndai a bwytai yn nhref harbwr y Bermo (1 milltir). Mae tafarn sy'n gweini bwyd o fewn 300 llath.
Manylion llety
Llawr isaf: Dwy ystafell wely ac ystafell olchi. Mae gwely dwbl yn un ystafell wely, ac yn yr ystafell arall ceir gwely dwbl ac un gwely sengl. Ystafell folchi modern gyda bath a chawod uwch y bath.
Llawr cyntaf: Cegin ac ystafell fwyta fawr agored dan drawstiau gwreiddiol y beudy, llawr derw a ffenestri yn y to sy'n gwneud hon yn ardal olau braf. Yn yr hanner arall mae'r lolfa braf gyda dwy soffa lledr, teledu mawr, a drysau dwbl yn agor i'r patio.
Gallwch lawrlwytho Datganiad Hygyrchedd ar gyfer y bwthyn drwy glicio yma.
Cyfleusterau
- Dillad gwely a thywelion
- Crud a chadair uchel ar gael
- Sychwr gwallt
- Teledu digidol
- DVD
- Radio/CD
- Trydan a gwres yn y pris
- Peiriant golchi llestri
- Microdon
- Oergell
- Rhewgell
- Ystafell olchi wedi'i rhannu yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad
- Parcio
- Patio a dodrefn
- Dim anifeiliaid anwes
- Coeden ac addurniadau ar gyfer cyfnod y Nadolig
- Dim ysmygu
- Anaddas i bobl ag anhawster symud



