Tai Croesion
Taicroesion yw'r bwthyn gwyliau perffaith: adeilad hanesyddol hyfryd, goyglfeydd o'r môr o bob ffenestr bron, a dim ond 5 munud i gerdded at draeth gwych.
Lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau teuluol. Y gerddi yn wych ar gyfer yr hen a'r ifanc. Y llety â digon o le, yn lân ac fel cartref oddi cartref. Byddwn yn dychwelyd.
Bwthyn gwych mewn lleoliad ardderchog, â pherchnogion croesawgar a chymwynasgar iawn.
Beudy Taicroesion
Cawsom wyliau gwych yn y bwthyn hyfryd hwn! Roedd y perchnogion yn gymwynasgar iawn. Dim ond 5 munud i gerdded at draeth tywod hyfryd a glân a llefydd bendigedig i fynd am dro yn lleol - buaswn yn ei argymell i unrhyw un, diolch!
Am leoliad perffaith, byddwn yn sicr o ddychwelyd i ddarganfod rhagor am yr ardal.
Llecyn tawel o fewn pellter cerdded i draeth baner las, bwthyn cysurus â'r holl offer sydd ei hangen, lolfa a chegin hyfryd.
Beudy'r Gwenoliaid
Bwthyn bendigedig a chynnes mewn lleoliad perffiath. Deffro i olwg y môr oedd ein syniad ni o nefoedd!
Gwyliau gwych yn y bwthyn hyfryd hwn. Dim byd yn ormod o drafferth i'r perchnogion. Lleoliad grêt gyda llawer i'w wneud a'i weld. Bwthyn glân iawn. Golygfeydd gwych o'r bryniau y tu ôl i'r bwthyn, a'r môr i'r tu blaen.
Bwthyn, lleoliad, golygfeydd a chroeso gwych.