-
"Bwthyn modern, clud a chyffyrddus"
Y beudy cyntaf i ni ei drosi'n fwthyn gwyliau, rydym wedi rhoi pob gofal i sicrhau bod yma leoliad gwerth chweil i dreulio'ch gwyliau.
Gyda lle i bedwar gysgu mewn dwy lofft, mae'n ddelfrydol ar gyfer teulu bach neu gwpl. Mae'n glud, ond gyda digon o le, er byddwch yn siŵr o gael eich tynnu allan beth bynnag i fwynhau'r ardd, neu danio BBQ!
Gadewch eich car yn ei fan parcio pwrpasol pan ddewiswch gerdded i'r traeth, neu â chymaint i'w weld a gwneud yn lleol, ewch â char a bydd y lolfa braf yn barod i'ch croesawu gartref!
Yn swatio mewn llecyn tawel oddi ar yr heol, gyda golygfeydd trawiadol dros ddyfroedd disglair bae Ceredigion, mae'r bythynnod i gyd mewn lleoliad ardderchog ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.
Lai na chwarter milltir lawr yr heol mae traeth tywod euraid Llanaber yn lleoliad delfrydol ar gyfer dyddiau hafaidd diog, neu i frasgamu yn awyr iach y gaeaf. Neu daliwch gwch o harbwr Bermo draw i Fairbourne a mynd am daith ar y trên stêm.
O fewn cyrraedd cyfleus mae mynyddoedd i'w dringo, llwybrau i'w beicio a gweithgareddau ac atyniadau i'r teulu cyfan. Mae tref Harlech, â'i chastell mawreddog, cwrs golff nodedig a thraeth anhygoel 10 milltir i un cyfeiriad, a thref marchnad Dolgellau yn glos wrth droed Cader Idris i'r cyfeiriad arall.
Mae digonedd o siopau, tafarndai a bwytai yn nhref harbwr y Bermo (1 milltir). Mae tafarn sy'n gweini bwyd o fewn 300 llath.
Manylion llety
Drws yn agor i ardal agored y gegin ac ardal fwyta, stepiau yn mynd lawr i lefel yr ystafelloedd gwely. Ystafell olchi olau gyda bath maint llawn a chawod uwch y bath. Llawr cyntaf: Lolfa braf dan drawstiau gwreiddiol y beudy. Modd cadw llygad ar y cogyddion yn y gegin!
Gallwch lawrlwytho Datganiad Hygyrchedd ar gyfer y bwthyn drwy glicio yma.
Cyfleusterau
- Dillad gwely a thywelion
- Crud
- Sychwr gwallt
- Teledu digidol
- DVD
- Radio/CD
- Trydan wedi'i gynnwys
- Microdon
- Oergell/Rhewgell
- Ystafell olchi wedi'i rhannu yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad
- Cadair uchel
- Parcio
- Gardd gyda phatio a dodrefn
- Barbiciw
- Dim anifeiliaid anwes
- Coeden ac addurniadau ar gyfer cyfnod y Nadolig
- Dim ysmygu
- Anaddas i bobl ag anhawster symud